R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y gwasanaethau presennol yn Ysbyty Llwynhelyg, yn dilyn ei gyfarfod gyda’r Tîm Gweithredu i Achub Ysbyty Llwynhelyg? OAQ(4)0408(HSS)
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ddarpariaeth y mae'r Gweinidog yn ei gwneud ar gyfer diagnosis a chymorth i'r rhai ar y sbectrwm awtistig? OAQ(4)0404(HSS)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd yn 2014 i fynd i'r afael â'r broblem o apwyntiadau meddyg teulu a gollwyd yng Nghymru? OAQ(4)0409(HSS)
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd yr ymchwiliad gan yr Athro June Andrews i Ysbyty Tywysoges Cymru yn ymdrin â chwynion hanesyddol sydd dros dair blwydd oed? OAQ(4)0403(HSS)
5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y llawdriniaethau a drefnwyd sydd wedi cael eu canslo dros y chwe mis diwethaf mewn ysbytai yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0410(HSS)
6. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl gweld gwelliannau systematig i brosesau'r GIG o ymdrin â chwynion, yng ngoleuni'r adolygiad o'r mater hwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar? OAQ(4)0416(HSS)
7. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau’r rhestrau aros ar gyfer triniaeth y galon yn ne a gorllewin Cymru? OAQ(4)0406(HSS)W
8. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau ffisiotherapi yng Nghymru? OAQ(4)0418(HSS)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella mynediad i ofal meddygol sylfaenol yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0413(HSS)
10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg yn ysbytai gogledd Cymru? OAQ(4)0415(HSS)W
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffiniau daearyddol ymchwiliad yr Athro Andrews i wraidd y mater ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg? OAQ(4)0407(HSS)
12. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu plant rhag effeithiau iechyd ysmygu goddefol? OAQ(4)0414(HSS)
13. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ambiwlans yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0412(HSS)W
14. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen De Cymru i ad-drefnu ysbytai? OAQ(4)0411(HSS)
15. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses asesu unedig ar gyfer cael mynediad i ofal cymdeithasol i oedolion? OAQ(4)0417(HSS)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gyfeirio Biliau'r Cynulliad i'r Goruchaf Lys? OAQ(4)0058(CG)W
2. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda Chomisiwn y Gyfraith ynglŷn ag Adran 21 o Fil drafft Cymru? OAQ(4)0060(CG)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am hygyrchedd deddfwriaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0059(CG)W
Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa safonau sydd ar waith o ran darparu rhaglenni Dechrau’n Deg? OAQ(4)0158(CTP)W
2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru a fydd yn cyflawni ei hagenda datblygu cynaliadwy? OAQ(4)0154(CTP)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y sector gwirfoddol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0142(CTP)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar gyllid y trydydd sector? OAQ(4)0148(CTP)
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo undebau credyd ledled Cymru? OAQ(4)0143(CTP)
6. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y bobl sy'n trefnu benthyciadau llog uchel yng Nghymru? OAQ(4)0150(CTP)
7. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i drechu tlodi yn Arfon? OAQ(4)0146(CTP)W
8. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa feini prawf y mae'r Gweinidog yn eu defnyddio i ddyrannu cyllid Dechrau’n Deg i awdurdodau lleol? OAQ(4)0157(CTP)W
9. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol? OAQ(4)0147(CTP)
10. Russell George (Sir Drefaldwyn): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau'r sector gwirfoddol yng Nghymru? OAQ(4)0155(CTP)
11. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r newidiadau disgwyliedig yn ei flaenoriaethu ar gyfer trechu tlodi yng Nghaerdydd ym mlwyddyn ariannol 2014/15? OAQ(4)0151(CTP)
12. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am integreiddio rhaglenni sydd wedi eu cynllunio i gynorthwyo teuluoedd? OAQ(4)0153(CTP)
13. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gofal plant yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0149(CTP)W
14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddangosyddion allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer nodi tlodi gwledig? OAQ(4)0144(CTP)
15. Elin Jones (Ceredigion): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo undebau credyd yng Ngheredigion? OAQ(4)0145(CTP)W